Pennod Ⅶ.
Ac yn awr, yr wyf fi, Moroni, yn ysgrifenu ychydig o eiriau fy nhad Mormon, y rhai a lefarodd efe ynghylch ffydd, gobaith, a chariad; canys yn y modd hyn y llefarodd efe wrth y bobl, pan yr oedd yn eu dysgu hwynt yn y synagog ag oeddynt wedi adeiladu yn le at addoli. Ac yn awr, yr wyf fi, Mormon, yn llefaru wrthych chwi, fy anwyl frodyr; a thrwy râs Duw, y Tad, a’n Harglwydd Iesu Grist, a’i ewyllys santaidd ef, oblegid rhodd ei alwedigaeth i mi, y caniateir i mi lefaru wrthych yr amser hwn; am hyny, mi a ewyllysiwn lefaru wrthych chwi y rhai ydych o’r eglwys, ac yn ganlynwyr heddychlawn Crist, ac wedi derbyn gobaith digonol, trwy yr hwn y gellwch fyned i mewn i orphwysfa yr Arglwydd, o’r amser hwn allan, hyd nes y cewch orphwys gydag ef yn y nefoedd. Ac yn awr, fy mrodyr, yr wyf yn barnu y pethau hyn am danoch chwi o herwydd eich rhodiad heddychlawn gyda phlant dynion; canys yr wyf yn cofio gair yr Arglwydd, yr hwn a ddywed, Wrth eu gweithredoedd yr adnabyddwch hwynt; canys os yw eu gweithredoedd yn dda, yna y maent hwythau yn dda hefyd. Canys wele, y mae Duw wedi dywedyd, Dyn yr hwn sydd yn ddrwg nis gall wneuthur yr hyn sydd yn dda; canys os offryma rodd neu weddio ar Dduw, os na wna hyny gyda gwir fwriad, nid yw o ddim lleshad iddo. Canys wele, nis cyfrifir ef iddo yn gyfiawnder. Canys wele, os bydd dyn sydd yn ddrwg, yn rhoddi rhodd, y mae yn ei wneuthur dan rwgnach; am hyny, cyfrifir iddo megys pe byddai wedi cadw y rhodd; o ganlyniad, efe a gyfrifir yn ddrwg gerbron Duw. Ac yn gyffelyb hefyd y cyfrifir yn ddrwg i ddyn, os gweddia, ac nid o wir fwriad calon; ïe, ac nid yw yn lleshau dim iddo; canys nid yw Duw yn derbyn y cyfryw; am hyny, dyn ag sydd yn ddrwg, nis gall wneuthur yr hyn sydd yn dda; ac ni rydd efe rodd dda. Canys wele, nis gall ffynnon chwerw ddwyn allan ddwfr da; ac nis gall ffynnon dda ddwyn allan ddwfr chwerw; am hyny, nis gall dyn sydd yn was i’r diafol, ganlyn Crist; ac os canlyna Grist, nis gall fod yn was i’r diafol. Am hyny, pob peth da sydd yn dyfod oddiwrth Dduw; a’r hyn sydd yn ddrwg, oddiwrth y diafol y mae yn dyfod; canys y mae’r diafol yn elyn i Dduw, ac yn ymladd yn ei erbyn ef yn wastadol, ac yn gwahodd ac yn denu i bechod, ac i wneuthur yr hyn sydd yn ddrwg yn barhaus. Eithr wele, y mae yr hyn sydd o Dduw, yn gwahodd ac yn cymhell i wneuthur da yn wastadol; am hyny, y mae pob peth sydd yn gwahodd ac yn cymhell i wneuthur da, ac i garu Duw, a’i wasanaethu, wedi ei ysbrydoli gan Dduw. Am hyny, gochelwch, fy anwyl frodyr, na farnoch yr hyn sydd ddrwg, o Dduw, neu yr hyn sydd dda ac o Dduw, o’r diafol. Canys wele, fy mrodyr, rhoddir i chwi farnu, fel yr adwaenoch dda oddiwrth ddrwg; ac y mae’r ffordd i farnu mor eglur, fel y galloch wybod â gwybodaeth berffaith, megys yr adwaenir y goleuddydd oddiwrth y dywell nos. Canys wele, y mae ysbryd Crist yn cael ei roddi i bob dyn, fel yr adwaenont y da oddiwrth y drwg; am hyny, yr wyf yn dangos i chwi y ffordd i farnu; canys y mae pob peth ag sydd yn annog i wneuthur da, ac yn perswadio i gredu yn Nghrist, yn cael ei ddanfon allan trwy allu a dawn Crist; am hyny, chwi a ellwch wybod â gwybodaeth berffaith ei fod o Dduw; eithr pa beth bynag sydd yn perswadio dynion i wneuthur drwg, a pheidio credu yn Nghrist, a’i wadu, a pheidio gwasanaethu Duw, yna chwi a ellwch wybod â gwybodaeth berffaith ef fod o’r diafol, canys yn y modd hyn y mae y diafol yn gweithredu, oblegid nid yw yn perswadio neb i wneuthur da, nac ydyw ddim un; nac ychwaith ei angylion, nac ychwaith y rhai sydd yn ymddarostwng iddo.
Ac yn awr, fy mrodyr, gan weled eich bod yn adwaen y goleuni wrth yr hwn y gellwch farnu, yr hwn oleuni yw goleuni Crist, edrychwch na farnoch ar gam; canys â’r cyfryw farn y barnoch chwi, y bernir chwithau hefyd. Am hyny, yr wyf yn deisyf arnoch, frodyr, am i chwi chwilio yn ddiwyd yn ngoleuni Crist, fel yr adwaenoch dda oddiwrth ddrwg; ac os bydd i chwi ddal gafael yn mhob peth da, a pheidio ei gondemnio, yn ddian chwi a fyddwch yn blant i Grist. Ac yn awr, frodyr, pa fodd y mae yn bosibl y gallwch ddal gafael ar bob peth da? Ac yn awr, yr wyf yn dyfod at y ffydd hono, am yr hon y dywedais y llefarwn; ac mi a fynegaf i chwi y ffordd trwy yr hon y gellwch ddal gafael ar bob peth da. Canys wele, Duw, gan wybod pob peth, gan fod o dragywyddoldeb i dragywyddoldeb, wele, efe a anfonodd angylion i weinyddu i blant dynion, i egluro iddynt ynghylch dyfodiad Crist; ac y deuai yn Nghrist bob peth da. A Duw hefyd a lefarodd wrth brophwydi, trwy ei enau ei hun, y deuai Crist. Ac wele, mewn amryw ffyrdd yr eglurodd efe i blant dynion bethau ag oeddynt yn da; a phob peth ag sydd yn dda, sydd yn dyfod oddiwrth Grist; pe amgen, buasai dynion yn syrthiedig, ac nis gallai un peth da ddyfod atynt. Am hyny, trwy weinidogaeth angylion, a thrwy bob gair a ddaeth allan o enau Duw, y dechreuodd dynion weithredu ffydd yn Nghrist; ac felly trwy ffydd, hwy a ymafaelent mewn pob petha da; ac felly yr oedd hyd ddyfodiad Crist. Ac wedi ei ddyfod ef, achubid dynion hefyd trwy ffydd yn ei enw; a thrwy ffydd, hwy a ddaethant yn feibion i Dduw. Ac fel mai byw Crist, efe a lefarodd y geiriau hyn wrth ein tadau, gan ddywedyd, Pa beth bynag a ofynoch i’r Tad yn fy enw i, ag sydd dda, mewn ffydd, gan gredu y derbyniwch, wele, efe a fydd i chwi. am hyny, fy anwyl frodyr, a ddarfyddodd gwyrthiau, oblegid fod Crist wedi esgyn i’r nef, ac eistedd i lawr ar ddeheulaw Duw, i hawlio gan y Tad ei iawnderau o drugaredd ag sydd ganddo tuag at blant dynion; canys efe a atebodd ofynion y gyfraith, ac a hawliodd yr holl rai ag sydd a ffydd ynddo ef, a’r rhai sydd a ffydd ynddo ef, a ymlynant wrth bob peth da; am hyny, y mae efe yn dadleu achos plant dynion, ac y mae yn trigo yn dragywyddol yn y nefoedd. Ac oblegid ei fod wedi gwneuthur hyn, fy anwyl frodyr, a ydyw gwyrthiau wedi darfod? Wele, yr wyf yn dywedyd wrthych, nac ydynt; ac nid yw angylion wedi darfod gweinyddu i blant dynion. Canys wele, y maent hwy yn ddarostyngedig iddo ef, i weinyddu yn ol gair ei orchymyn, gan ddangos eu hunain i’r rhai sydd o ffydd gref a meddwl diysgog, yn mhob ffurf o dduwioldeb: A swydd eu gweinidogaeth yw, galw dynion i edifeirwch, a chyflawni a gwneuthur gwaith cyfammodau y Tad, y rhai a wnaeth efe â phlant dynion, a pharotoi y ffordd yn mhlith plant dynion, trwy draethu gair Crist i lestri etholedig yr Arglwydd, fel y dygont dystiolaeth am dano ef; a thrwy wneuthur felly, y mae yr Arglwydd Dduw yn parotoi y ffordd fel y gallo y gweddill o ddynion gael ffydd yn Nghrist, fel y caffo yr Ysbryd Glân le yn eu calonau, yn ol ei allu; ac yn y modd hyn y mae’r Tad yn dwyn oddiamgylch y cyfammodau y rhai a wnaeth efe â phlant dynion. Ac y mae Crist wedi dywedyd, Os bydd genych ffydd ynof fi, chwi a gewch allu i wneuthur pa beth bynag ag sydd yn fuddiol ynof fi. Ac y mae efe wedi dywedyd, Edifarhewch, chwi holl derfynau y ddaear, a deuwch ataf fi, a bedyddier chwi yn fy enw, a boed genych ffydd ynof fi, fel y byddoch gadwedig.
Ac yn awr, fy anwyl frodyr, os yw yn dygwydd fod y pethau hyn yn wir, y rhai a lefarais wrthych, a Duw a ddengys i chwi gyda gallu a gogoniant mawr yn y dydd diweddaf, eu bod yn wir; ac os ydynt yn wir, a ydyw dydd y gwyrthiau wedi darfod; neu a yw angylion wedi peidio ymddangos i blant dynion?—neu a yw efe wedi cadw gallu yr Ysbryd Glân oddiwrthynt? Neu a wna efe hyny, cyhyd ag y parhao amser, neu y safo y ddaear, neu y byddo un dyn ar ei gwyneb i gael ei achub? Wele, yr wyf yn dywedyd wrthych, na wna, canys trwy ffydd y cyflawnir gwyrthiau; a thrwy ffydd y mae angylion yn ym ddangos ac yn gweinyddu i ddynion; am hyny, os yw y pethau hyn wedi darfod, gwae blant dynion, canys yr achos yw anghrediniaeth, ac y mae’r cyfan yn ofer; canys ni all neb gael ei achub, yn ol geiriau Crist, oddieithr fod ganddynt ffydd yn ei enw; am hyny, os yw y pethau hyn wedi darfod, yna y mae ffydd wedi darfod hefyd; ac y mae sefyllfa dyn yn ofnadwy; canys y mae megys pe na byddai prynedigaeth wedi ei gwneuthur. Eithr wele, fy anwyl frodyr, yr wyf yn barnu pethau gwell am danoch chwi, canys yr wyf yn barnu fod ffydd genych chwi yn Nghrist, oblegid eich llarieidd-dra: canys os nad oes ffydd genych chwi ynddo, yna nid ydych yn addas i gael eich cyfrif fynwn lefaru wrthych ynghylch gobaith. Pa fodd y gellwch gyrhaeddyd ffydd, oddieithr fod genych obaith? A pha beth a obeithiwch am dano? Wele, yr wyf yn dywedyd wrthych, y bydd i chwi gael gobaith trwy iawn Crist a gallu ei adgyfodiad, i gael eich hadgyfodi i fywyd tragywyddol; a hyn oblegid eich ffydd ynddo ef yn ol yr addewid; am hyny, os bydd gan ddyn ffydd, anghenrhaid yw fod ganddo obaith; canys heb ffydd nis gall fod dim gobaith. A thrachefn, yr wyf yn dywedyd wrthych, nas gall ef gael ffydd a gobaith, oddieithr ei fod yn addfwyn a gostyngedig o galon; pe amgen, byddai ei ffydd a’i obaith yn ofer, canys nid oes neb yn gymmeradwy gerbron Duw, oddieithr yr addfwyn a’r gostyngedig o galon; ac os bydd dyn yn addfwyn a gostyngedig o galon; ac yn cyffesu trwy allu yr Ysbryd Glân, mai Iesu yw y Crist, mae yn anghenrhaid fod ganddo gariad; canys os na fydd ganddo gariad, nid yw ddim; am hyny, mae yn anghenrhaid fod ganddo gariad. Ac y mae cariad yn hir-ymaros, ac yn gymmwynasgar, ac nid yw yn cenfigenu, ac nid yw yn ymchwyddo, nac yn ceisio yr eiddo ei hun, ni chythruddir, ni feddwl ddrwg, ac nid yw lawen am anghyfiawnder, eithr yn cydlawenhau â’r gwirionedd; y mae yn dyoddef pob dim, yn credu pob dim, yn gobeithio pob dim, ac yn ymaros â phob diim: am hyny, fy anwyl frodyr, os nad oes genych gariad nid ydych ddim, canys cariad byth ni chwymp ymaith. Am hyny, glynwch wrth gariad, yr hwn yw y mwyaf o’r cyfan, canys pob peth arall a ddarfyddant; eithr cariad sydd eiddo Crist, ac y mae yun parhau byth; a phwy bynag a geir yn feddiannol arno yn y dydd diweddaf, a fydd yn dda arnynt. Am hyny, fy anwyl frodyr, gweddiwch ar y Tad gyda holl egni calon, fel y llanwer chwi â’r cariad hwn ag a roddodd efe i bawb ag ydynt yn wir ganlynwyr ei Fab, Iesu Grist, fel y deuoch yn feibion i Dduw, fel pan ymddangoso efe, y byddom debyg iddo; canys ni a gawn ei weled ef megys ag y mae, fel y meddom y gobaith hwn, y purir ni, megys y mae yntau yn bur. Amen.