Pennod Ⅲ.
Y modd ag yr oedd y dyscyblion, y rhai a elwid henuriaid yr eglwys, yn ordeinio offeiriaid a dysgawdwyr. Ar ol iddynt weddio ar y Tad yn enw Crist, hwy a osodent eu dwylaw arnynt, ac a ddywedent,—Yn enw Iesu Grist yr wyf fi yn dy ordeinio di yn offeiriad, neu (os mai dysgawdwr fydd), yr wyf fi yn dy ordeinio di yn ddysgawdwr, i bregethu edifeirwch a maddeuant pechodau trwy Iesu Grist, trwy barhad ffydd yn ei enw hyd y diwedd. Amen. Ac yn y modd hyn yr ordeinient hwy offeiriaid a dysgawdwyr, yn ol doniau a galwedigaethau Duw tuag at ddynion; a hwy a’u hordeinient trwy allu yr Ysbryd Glân, yr hwn oedd ynddynt.