Pennod Ⅱ.
Ac yn awr, dygwyddodd yn y drydedd flwyddyn a deugain o deyrnasiad y Barnwyr, nad oedd dim amrafael yn mhlith pobl Nephi, oddieithr ychydig o falchder ag oedd yn yr eglwys, yr hyn oedd yn achosi rhyw ychydig o ymraniadau yn mhlith y bobl, achosion pa rai a benderfynwyd yn niwedd y drydedd flwyddyn a deugain. Ac nid oedd dim amrafael yn mhlith y bobl yn y bedwaredd flwyddyn a deugain; ac nid oedd llawer o amrafael ychwaith yn y bummed flwyddyn a deugain. A dygwyddodd yn y chwechfed a deugain, fod llawer o amrafaelion ac ymraniadau, yn y rhai y darfu i lawer iawn ymadael o dir Zarahemla, a myned allan i’r tir gogleddol, i etifeddu y tir; a hwy a deithiasant i bellder mawr iawn, yn gymmaint ag iddynt ddyfod at gyrff mawrion o ddwfr, a llawer o afonydd; ïe, a hwy a wasgarent ar led i bob parth o’r tir, i ba barth bynag nad oedd wedi ei wneuthur yn anghyfanneddol, ac heb goed, o herwydd y trigolion lawer a fu yn flaenorol yn preswylio y tir. Ac yn awr, nid oedd un rhan o’r wlad yn anghyfanneddol, oddieithr am goed, &c.; eithr o herwydd mawredd dinystr y bobl a breswylient y tir yn flaenorol, y gelwid ef yn anghyfannedd. Ac er nad oedd ond ychydig o goed ar wyneb y tir, etto y bobl a aethant allan, a ddaethant yn fedrus iawn i wneuthur cymmrwd; o ganlyniad, hwy a adeiladent dai o gymmrwd, yn yn y rhai y preswylient.
A bu iddynt liosogi ac ymwasgaru, a myned ar led o’r tir deheuol i’r tir gogleddol, ac ymledaenu, yn gymmaint ag iddynt ddechreu gorchuddio gwyneb yr holl ddaear, o’r môr deheuol i’r môr gogleddol, ac o’r môr gorllewinol i’r môr dwyreiniol. A’r bobl ag oedd yn y tir gogleddol, a breswylient mewn pebyll, ac mewn tai o gymmrwd, a hwy a oddefent i bob pren pa bynag a dyfai i fyny ar wyneb y tir, gael tyfu i fyny, fel yn mhen amser y gallent gael coed i adeiladu eu tai, ïe, eu dinasoedd a’u temlau, a’u synagogau, a’u cyssegrfeydd, a’u holl adeiladau o bob math.
A dygwyddodd, gan fod coed yn brin iawn yn y tir yn ogleddol, iddynt ddanfon llawer allan mewn llongan; ac felly y darfu iddynt allnogi y bobl yn y tir yn ogleddol, fel y gallent adeiladu dinasoedd lawer, o goed ac o gymmrwd. A bu i laweroedd o bobl Ammon, y rhai oeddynt Lamaniaid o enedigaeth, fyned allan hefyd i’r tir hwn.
Ac yn awr, y mae llawer o gof-lyfrau yn cael eu cadw o weithrediadau y bobl hyn, gan amryw o’r bobl yma, ag ydynt yn neillduol ac yn fawrion iawn, o berthynas iddynt; eithr, wele, nis gall y ganfed ran o weithrediadau y bobl hyn, ïe, hanes y Lamaniaid, a’r Nephiaid, a’u rhyfeloedd, a’u hamrafaelion, a’u hymraniadau, a’u pregethu, a’u prophwydoliaethau, a’u llong-gludiad, a’u hadeiladu llongau, a’u hadeiladu temlan, a synagogau, a’u cyssegrfeydd, a’u cyfiawnder, a’u drygioni, a’u llofruddiaethau, a’u hyspeiliadau, a’u lladradau, a phob math o ffieidd-dra a phuteindra, gael ei chynnwys yn y gwaith hwn; eithr wele, y mae llyfrau lawer a chef-lyfrau lawer o bob math, a chadwyd hwynt yn benaf gan y Nephiaid; a throsglwyddwyd hwynt i wnered o un genedlaeth i’r llall, gan y Nephiaid, ïe, hyd nes y syrthiasant i drosedd, a chael en llofruddio, cu hyspeilio, a’u herlid, a’u gyru, a’u lladd, a’u gwasgaru ar wynch y ddaear, ac ymgymmysgu a’r Lamaniaid, fel nas gelwir hwynt mwyach yn Nephiaid, gan fyned yn ddrygionus, a gwyllt, a chreulawn, ïe, gan fyned yn Lamaniaid.
Ac yn awr, yr wyf yn dychwelyd drachefn at fy hanes; am hyny, yr hyn a lefarais a ddygwyddodd ar ol bod amrafaelion, a therfysgoedd, a rhyfeloedd, ac ymraniadau mawrion yn mhlith pobl Nephi. Y chwechfed flwyddyn a deugain o deyrnasiad y Barnwyr a derfynodd. A dygwyddodd fod amrafaelion mawrion o hyd yn y tir, ïe, hyd y nod yn y seithfed flwyddyn a deugain, ac hefyd yn yr wythfed flwyddyn a deugain; er hyny, Helaman a lanwodd yr orsedd farnol mewn cyfiawnder ac uniondeb; ïe, efe a ofalodd gadw deddfau, a barnedigaethau, a gorchymynion Duw; ac efe a wnaeth yr hyn ag oedd yn uniawn yn ngolwg Duw yn wastadol; ac efe a rodiodd yn ffyrdd ei dad, yn gymmaint ag iddo lwyddo yn y tir. A bu iddo gael dau fab. I’r henaf y rhoddodd yr enw Nephi, ac i’r ieuengaf yr enw Lehi. A hwy a ddechreuasant dyfu i fyny i’r Arglwydd. A dygwyddodd i’r rhyfeloedd a’r amrafaelion ddechreu peidio, i ychydig raddau, yn mhlith pobl y Nephiaid, yn niwedd yr wythfed flwyddyn a deugain o deyrnasiad y Barnwyr ar bobl Nephi. A bu yn y nawfed flwyddyn a deugain o deyrnasiad y Barnwyr, fod heddwch parhaus wedi ei sefydlu yn y tir, oll oddieithr y cynghreiriau dirgelaidd ag oedd Gadianton yr yspeiliwr wedi sefydlu, yn y parthau mwyaf llonydd o’r tir, y rhai nid oeddynt hysbys ar yr amser hwnw i’r rhai ag oedd wrth ben y llywodraeth; am hyny, ni ddyfethwyd hwynt allan o’r tir.
A dygwyddodd yn yr un flwyddyn fod llwyddiant mawr iawn yn yr eglwys, yn gymmaint a bod miloedd yn ymuno â’r eglwys, ac yn cael eu bedyddio i edifeirwch; ac yr oedd llwyddiant yr eglwys mor fawr, a’r bendithion a dywalltid ar y bobl mor lliosog, nes oedd hyd y nod yr archoffeiriaid a’r athrawon eu hunain yn synu yn ddirfawr. A bu i waith yr Arglwydd lwyddo hyd nes y bedyddiwyd ac yr unwyd ag eglwys Dduw lawer o eneidiau; ïe, sef debau o filoedd. Felly y gallwn weled fod yr Arglwydd yn drugarog wrth bawb a alwant, mewn cywirdeb calon, ar ei enw santaidd; ïe, felly gwelwn fod porth y nef yn agored i bawb, sef i’r rhai a gredant yn enw Iesu Grist, yr hwn yw Mab Duw; ïe, gwelwn fod pwy bynag a afaelo yn ngair Duw, yr hwn sydd fywiol a nerthol, yr hwn a gaiff wahanu holl gyfrwysdra, a maglau, a dichellion y diafol, ac arwain dyn Crist ar hyd y llwybr cul a chyfyng, yn groes i’r gagendor dragywyddol hono o drueni, yr hon sydd wedi ei pharotoi i draflyngcu y drygionus, a dwyn eu heneidiau, ïe, eu heneidiau anfarwol, ar ddeheulaw Duw, yn nheyrnas nefoedd, i eistedd i lawr gydag Abraham, ac Isaac, a Jacob, a chyda ein holl dadau santaidd, heb fyned allan mwy. Ac yn y flwyddyn hon yr oedd gorfoledd parhaus yn nhir Zarahemla, ac yn yr holl gylchoedd oddiamgylch, ïe, yn yr holl dir a feddiennid gan y Nephiaid. A dygwyddodd fod heddwch a llawenydd mawr iawn y gweddill o’r nawfed flwyddyn a deugain; ïe, ac hefyd heddwch parhaus a llawenydd mawr yn y ddegfed flwyddyn a deugain o deyrnasiad y Barnwyr. Ac yn yr unfed flwyddyn ar ddeg o deyrnasiad y Barnwyr yr oedd heddwch hefyd, oddieithr y balchder a ddechreuodd ddyfod i mewn i’r eglwys; nid i eglwys Dduw, eithr i galonau y bobl a broffesent berthyn i eglwys Dduw; ac yr oeddynt wedi ymddyrchafu mewn balchder, hyd at erlid amryw o’u brodyr. Yn awr, yr oedd hyn yn ddrwg mawr, yr hyn a achosodd i’r rhan fwyaf gostyngedig o’r bobl i ddyoddef erlidigaethau mawrion, ac i fyned trwy lawer o gystudd; er hyny, hwy a ymprydient ac a weddient yn fynych, ac a aethant yn gryfach gryfach yn eu gostyngeiddrwydd, a chadarnach cadarnach yn ffydd Crist, hyd at lanw eu heneidiau â llawenydd a dyddanwch, ïe, hyd at buro a santeiddio eu calonau, yr hwn santeiddio a deillia trwy eu bod yn rhoddi eu calonau i Dduw. A bu i’r ddeuddegfed glwyddyn a deugain derfynu mewn heddwch hefyd, oddieithr y balchder mawr ag oedd wedi myned i galonau y bobl; ac hyn oedd o herwydd eu dirfawr gyfoeth a’u llwyddiant yn y tir; ac efe a gynyddodd arnynt o ddydd i ddydd.
A bu yn y drydedd flwyddyn ar ddeg o deugain o deyrnasiad y Barnwyr, i Helaman farw, a’i fab henaf Nephi a ddechreuodd deyrnasu yn ei le. A darfu iddo ef lanw yr orsedd farnol mewn cyfiawnder ac uniondeb; ïe, efe a gadwodd orchymynion Duw, ac a rodiodd yn ffyrdd ei dad. A dygwyddodd yn y bedwaredd flwyddyn ar ddeg a deugain, fod llawer o ymraniadau yn yr eglwys, ac yr oedd amrafael hefyd yn mhlith y bobl, yn gymmaint â bod llawer o dywallt gwaed; a’r dosparth gwrthryfelgar a laddwyd ac a yrwyd allan o’r tir, a hwy a aethant at frenin y Lamaniaid.
A bu iddynt ymdrechu cyffroi y Lamaniaid i ryfel yn erbyn y Nephiaid; eithr wele, yr oedd y Lamaniaid yn dra ofnog, yn gymmaint ag na wrandawent ar eiriau yr ymneillduwyr hyny. Eithr dygwyddodd yn yr unfed flwyddyn ar bymtheg a deugain o deyrnasiad y Barnwyr, fod ymmeillduwyr yn myned i fyny oddiwrth y Nephiaid at y Lamaniaid; a hwy a lwyddiasant gyda’r rhai ereill hyny i’w cyffroi hwynt i ddigofaint yn erbyn y Nephiaid; ac yr oeddynt oll y flwyddyn hono yn parotoi i ryfel. Ac yn y ddwyfed flwyddyn ar bymtheg a deugain, hwy a ddaethant i waered yn erbyn y Nephiaid i ryfel, ac a ddechreuasant waith marwolaeth; ïe, yn gymmaint ag iddynt, yn y ddeunawfed flwyddyn a deugain o deyrnasiad y Barnwyr, lwyddo i gymmeryd meddiant o dir Zarahemla; ïe, ac hefyd yr holl diroedd, sef hyd y tir ag oedd yn agos i dir Llawnder; a’r Nephiaid, a byddinoedd Moronihah, a yrwyd hyd y nod i dir Llawnder; ac yno yr amddiffynasant yn erbyn y Lamaniaid, o’r môr gorllewinol hyd yr un dwyreiniol; yr oedd yn daith niwrnod i Nephiad, ar y llinell ag oeddynt wedi amgaeru a gosod eu byddinoedd i amddiffyn eu gwlad ogleddol. Ac felly y darfu i’r ymneillduwyr hyny oddiwrth y Nephiaid, gyda chynnorthwy byddin liosog o’r Lamaniaid, gael meddiant o holl etifeddiaeth y Nephiaid ag oedd yn y tir yn ddeheuol. A hyn oll a gyflawnwyd yn y ddeunawfed a’r bedwaredd flwyddyn ar bymtheg a deugain o deyrnasiad y Barnwyr.
A bu yn y drugeinfed flwyddyn o deyrnasiad y Barnwyr, i Moronihah lwyddo gyda’i fyddinoedd i adennill amryw ranau o’r wlad, ïe, darfu iddynt adennill llawer o ddinasoedd ag oedd wedi syrthio i ddwylaw y Lamaniaid.
A bu yn yr unfed flwyddyn a thrugain o deyrnasiad y Barnwyr, iddynt lwyddo i adennill hyd y nod hanner eu holl etifeddiaethau. Yn awr, ni ddygwyddai y colled mawr hwn o eiddo y Nephiaid, a’r lladdfa fawr ag oedd yn eu plith, oni buasai eu drygioni a’u ffieidd-dra ag oedd yn eu plith; ïe, ac yr oedd hefyd yn mhlith y rhai a broffesent berthyn i eglwys Dduw; ac yr oedd hyn o herwydd balchder eu calonau, o herwydd eu mawr gyfoeth, ïe, yr oedd o herwydd eu gorthrymder tuag at y tlawd, gan gadw eu hymborth oddiwrth y newynog, a chadw eu dillad oddiwrth y noeth, a chernodio eu brodyr gostyngedig, gan watwar yr hyn oedd yn gyssegredig, gan wadu ysbryd y brophwydoliaeth a dadguddiad, a llofruddio, yspeilio, dywedyd celwydd, lladrata, godinebu, cyfodi i fyny mewn amrafaelion mawrion, ac ymadael ymaith i dir Nephi, yn mhlith y Lamaniaid; ac o herwydd eu mawr ddrygioni hwn, a’u hymffrost mawr yn eu nerth eu hunain, hwy a adawyd yn eu nerth eu hunain; am hyny, ni lwyddiasant, eithr a gystuddiwyd ac a darawyd, ac a yrwyd o flaen y Lamaniaid, hyd nes y collasant braidd en holl diroedd. Ond, wele, Moronihah a bregethodd lawer o bethau wrth y bobl o herwydd eu hanwiredd, ac hefyd Nephi a Lehi, y rhai oeddynt feibion Helaman, a bregethasant lawer o bethau wrth y bobl; ïe, ac a brophwydasant lawer o bethau wrthynt ynghylch eu hanwireddau, a pha beth a ddeuai iddynt os na edifarhaent am eu pechodau. A bu iddynt edifarhau, ac yn gymmaint ag iddynt edifarhau, hwy a ddechreuasant lwyddo; canys pan welodd Moronihah eu bod yn edifarhau, efe a anturiodd eu harwain allan o le i le, ac o ddinas i ddinas, hyd nes y bu iddynt adennill un hanner o’u heiddo, a’r hanner o’u holl diroedd. Ac felly y terfynodd yr unfed flwyddyn a thrugain o deyrnasiad y Barnwyr.
A bu yn yr ail flwyddyn a thrugain o deyrnasiad y Barnwyr, nad allai Moronihah gael rhagor o feddiannau oddiwrth y Lamaniaid; am hyny, rhoddasant i fyny eu bwriad i ennill y gweddill o’u tiroedd, canys yr oeddy Lamaniaid mor lliosog, fel yr oedd yn anmhosibl i’r Nephiaid gael rhagor o allu drostynt; am hyny, Moronihah a ddefnyddiodd ei holl fyddinoedd i gadw y rhanau hyny ag oedd wedi gymmeryd.
A dygwyddodd o herwydd lliosogrwydd rhifedi y Lamaniaid, fod y Nephiaid mewnofn mawr, rhag iddynt gael eu gorthrechu, a’u sathru i lawr, a’u lladd, a’u dyfetha; ïe, hwy a ddechreuasant gofio prophwydoliaethau Alma, ac hefyd eiriau Mosiah; a hwy a welsant eu bod wedi bod yn bobl wargaled, a’u bod wedi dirmygu gorchymynion Duw; a’u bod wedi cyfnewid a sathru dan eu traed gyfreithiau Mosiah, neu y rhai y gorchymynodd yr Arglwydd iddo ef roddi i’r bobl; a chan weled felly fod eu cyfreithiau wedi llygru, a’u bod hwythau wedi myned yn bobl ddrygionus, yn gymmaint â’u bod yn ddrygionus megys y Lamaniaid. Ac o herwydd eu hanwiredd, yr oedd yr eglwys wedi dechreu gwaethygu; a hwy a ddechreuasant anghredu ysbryd y brophwydoliaeth, ac ysbryd y dadguddiad: ac yr oedd barnedigaethau Duw yn sylldremu arnynt yn eu gwyneb. A hwy a welsant eu bod wedi myned yn weiniaid, megys eu brodyr y Lamaniaid, ac nad oedd ysbryd yr Arglwydd mwyach yn eu cadw hwynt; ïe, yr oedd wedi cilio oddiwrthynt, o herwydd nid yw ysbryd yr Arglwydd yn trigo mewn temlau halogedig: am hyny, yr Arglwydd a beidiodd eu cadw hwynt trwy ei allu gwyrthiol a digyffelyb, canys yr oeddynt wedi syrthio i gyflwr o anghrediniaeth a drygioni enbyd; a hwy a welsant fod y Lamaniaid yn llawer mwy lliosog nâ hwy, ac oddieithr iddynt lynu wrth yr Arglwydd eu Duw, y dyfethid hwynt yn anocheladwy. Canys wele, gwelsant fod nerth y Lamaniaid, gymmaint â’u nerth hwythau, hyd y nod gwr am wr. Ac felly yr oeddynt wedi syrthio i’r trosedd mawr hwn; ïe, felly yr oeddynt wedi dyfod yn weiniaid, o herwydd eu trosedd, mewn yspaid nemawr o flynyddoedd.
A bu yn yr unfed flwyddyn hon, i Nephi roddi yr orsedd farnol i ddyn ag oedd a’i enw Cezoram. Canys gan fod eu cyfreithiau a’u llywodraethau yn cael eu sefydlu trwy lais y bobl, a bod y rhai a ddewisent ddrwg yn fwy lliosog nâ’r rhai a ddewisent dda, yr oeddynt yn addfedu i ddinystr, oblegid yr oedd y cyfreithiau wedi myned yn llygredig; ïe, ac nid hyn oedd y cyfan; yr oeddynt yn bobl wargaled, yn gymmaint ag nas gellid eu llywodraethu gan gyfraith na chyfiawnder, oddieithr er eu dinystr.
A bu i Nephi fyned yn flin, oblegid eu drygioni hwynt; ac efe a roddodd i fyny yr orsedd farnol, ac a gymmerodd arno i bregethu gair Duw yr holl weddill o’i ddyddiau, ac hefyd ei frawd Lehi, holl weddill ei ddyddiau yntau; canys yr oeddynt yn cofio y geiriau a lefarodd eu tad Helaman wrthynt. A’r rhai hyn yw y geiriau a lefarodd efe. Wele, fy meibion, mi a ewyllysiwn i chwi gofio cadw gorchymynion Duw; ac mi a fynwn i chwi draethu wrth y bobl y geiriau hyn, Wele, mi a roddais i chwi enwau ein rhieni cyntaf, y rhai a ddaethant allan o wlad Jerusalem; a hyn a wnaethym, fel pan gofioch eich enwau, y galloch eu cofio hwy; a phan gofioch hwy, y galloch gofio eu gweithredoedd; a phan gofioch eu gweithredoedd, y galloch wybod pa fodd y llefarir, ac yr ysgrifenwyd hefyd, eu bod yn dda; am hyny, fy meibion, mi a fynwn i chwi wneuthur yr hyn sydd yn dda, fel y gellir dywedyd, ac ysgrifenu hefyd, megys ag y dywedwyd ac yr ysgrifenwyd am danynt hwy. Ac yn awr, fy meibion, wele, y mae genyf rywbeth yn ychwaneg i ddymuno arnoch, yr hwn ddymuniad yw, na wneloch y pethau hyn fel yr ymffrostioch, eithr gwneuthur o honoch y pethau hyn fel y trysoroch i chwi eich hunain drysor yn y nef, ïe, yr hwn sydd yn dragywyddol, a’r hwn nad yw yn diflannu ymaith: ïe, fel y caffoch y rodd werthfawr hono o fywyd tragywyddol, yr hon y mae achos genym i feddwl sydd wedi ei rhoddi i’n tadau.
O cofiwch, cofiwch, fy meibion, y geiriau a lefarodd y brenin Benjamin wrth ei bobl; ïe, cofiwch nad oes ffordd na modd arall trwy ba un y gall dyn gael ei achub, ond yn unig trwy waed iawnol Iesu Grist, yr hwn a ddaw; ïe, cofiwch ei fod ef yn dyfod i waredu y byd. A chofiwch hefyd y geiriau a lefarodd Amulek wrth Zeezrom, yn ninas Ammonihah; canys efe a ddywedodd wrtho, y deuai yr Arglwydd yn ddiau i achub ei bobl: eithr na ddeuai efe i’w gwaredu yn eu pechodau, ond i’w gwaredu oddiwrth eu pechodau. Ac y mae ganddo ef allu wedi ei roddi iddo gan y Tad, i’w gwaredu hwynt oddiwrth eu pechodau, o herwydd edifeirwch; am hyny, efe a ddanfonodd ei angylion i draethu y newyddion am ammodau edifeirwch, yr hyn a’u dyg i allu y Gwaredwr, er iachawdwriaeth eu heneidiau. Ac yn awr, fy meibion, cofiwch, cofiwch, mai ar graig ein Gwaredwr, yr hwn yw Crist, Mab Duw, y rhaid i chwi osod eich sylfaen, fel pan ddenfyn y diafol ei wyntoedd nerthol allan; ïe, ei saethau yn y corwynt; ïe, pan gura ei holl genllysg a’i ystorom gref arnoch, na chaffo un gallu drosoch, i’ch llusgo i lawr i’r gagendor o drueni a gwae diddarfod, oblegid y graig yr ydych wedi adeiladu arni, yr hon sydd yn sylfaen ddiogel, sylfaen os adeilada dynion arni, nas gallant syrthio.
A dygwyddodd mai y rhai hyn oedd y geiriau a ddysgodd Helaman i’w feibion; ïe, efe a ddysgodd iddynt lawer o bethau nad ydynt yn ysgrifenedig, ac hefyd lawer o bethau ag ydynt yn ysgrifenedig. A hwy a gofiasant ei eiriau; am hyny, hwy a aethant allan, gan gadw gorchymynion Duw, i ddysgu gair Duw yn mhlith holl bobl Nephi, gan ddechreu yn ninas Llawnder; ac oddi yno i ddinas Gid; ac o ddinas Gid i ddinas Mulek; ac hyd y nod o un ddinas i’r llall, hyd nes yr aethant allan yn mhlith holl bobl Nephi, y rhai oeddynt yn y tir yn ddeheuol; ac oddi yno i dir Zarahemla, yn mhlith y Lamaniaid.
A bu iddynt bregethu gyda gallu mawr, yn gymmaint ag iddynt ddyrysu llawer o’r ymneillduwyr hyny a aethent drosodd oddiwrth y Nephiaid, yn gymmaint ag iddynt ddyfod allan a chyffesu eu pechodau, a chael eu bedyddio er edifeirwch, a dychwelasant yn uniongyrchol at y Nephiaid, er ymdrechu adgyweirio iddynt y camwri ag oeddynt wedi wneuthur. A bu i Nephi a Lehi bregethu wrth y Lamaniaid gyda’r fath fawr allu ac awdurdod, canys yr oedd gallu ac awdurdod wedi ei roddi iddynt fel y gallent lefaru; a hwy a gawsant hefyd wedi ei roddi iddynt yr hyn a gaent lefaru; o ganlyniad, hwy a lefarasant er mawr syndod i’r Lamaniaid, nes eu hargyhoeddi hwynt, yn gymmaint ag i wyth mil o’r Lamaniaid ag oedd yn nhir Zarahemla ac o amgylch, gael eu bedyddio i edifeirwch, a’u hargyhoedd o ddrygioni traddodiadau eu tadau.
A bu i Nephi a Lehi gychwyn oddiyno er myned i dir Nephi. A bu iddynt gael eu cymmeryd gan fyddin o’r Lamaniaid a’u bwrw yn ngharchar; ïe, sef yn yr un carchar ag y bwriwyd Ammon a’i frodyr iddo gan weision Limhi. Ac ar ol iddynt gael eu bwrw yn ngharchar amryw ddyddiau heb ymborth, wele, hwy a aethant i’r carchar i’w cymmeryd, fel y lladdent hwynt. A dygwyddodd fod Nephi a Lehi wedi cael eu hamgylchynu megys pe â than, ïe, hyd nes na feiddient hwy osod eu dwylaw arnynt, rhag iddynt gael eu llosgi. Er hyny, nid oedd Nephi a Lehi wedi eu llosgi; ac yr oeddynt megys yn sefyll yn nghanol y tân, ac heb gael eu llosgi. A phan welsant eu bod wedi eu hamgylchynu gan golofn o dân, ac nad oedd yn eu llosgi, eu calonau a ymwrolasant. Canys gwelsant na feiddiai y Lamaniaid osod eu dwylaw arnynt; ac ni feiddient ddyfod yn agos atynt, eithr safent megys wedi eu taraw yn fud gan syndod.
A bu i Nephi a Lehi sefyll allan, a dechreu llefaru wrthynt, gan ddywedyd, Nac ofnwch, canys wele, Duw sydd wedi dangos i chwi y peth rhyfedd hwn, yn yr hyn y dangosir i chwi nas gellwch osod eich dwylaw arnom ni i’n lladd. Ac wele, wedi iddynt ddywedyd y geiriau hyn, y ddaear a grynodd yn ddirfawr, a muriau y carchar a ysgwydasant, megys pe byddent ynghylch cwympo i’r ddaear; eithr wele, ni chwympasant. Ac wele, y rhai oeddynt yn y carchar oeddynt Lamaniaid a Nephiaid ag oeddynt yn ymneillduwyr. A dygwyddodd iddynt hwy gael eu gorchuddio â chwmwl o dywyllwhc, ac ofn dychrynllyd a phrysur a ddaeth arnynt. A dygwyddodd ddyfod llais megys pe byddai uwchlaw y cwmwl o dywyllwch, yn dywedyd, Edifarhewch, edifarhewch, ac na cheisiwch mwyach i ddyfetha fy ngweision y rhai a ddanfonais atoch i draethu newyddion da.
A bu pan glywsant y llais hwn, a chanfod mai nid llais taran oedd, ac mai nid llais swn mawr terfysglyd oedd; eithr wele, llais dystaw ac hollol fwyn oedd, megys pe byddai yn sibrwd, a threiddiai hyd y nod i’r enaid. Ac er mwyneidd-dra y llais, wele, y ddaear a grynodd yn ddirfawr, a muriau y carchar a ysgydwasant drachefn, megys pe byddent ar syrthio i’r ddaear; ac wele, y cwmwl o dywyllwch a’u gorchuddiai hwynt, ni wasgarodd. Ac wele, y llais a ddaeth drachefn, gan ddywedyd. Edifarhewch, edifarhewch, canys teyrnas nefoedd sydd yn agos wrth law; ac na cheisiwch mwyach i ddyfetha fy ngweision. A bu i’r ddaear grynu drachefn, ac i’r muriau ymysgwyd; a thrachefn hefyd, y llais a ddaeth y drydedd waith, ac a lefarodd wrthynt eiriau rhyfedd, y rhai nis gellir eu traethu gan ddyn; a’r muriau a ysgydwasant drachefn, a’r ddaear a grynodd megys pe byddai ynghylch ymagor odditanodd.
A dygwyddodd nad allai y Lamaniaid ffoi o herwydd y cwmwl tywyllwch ag oedd yn eu gorchuddio hwynt; ïe, ac hefyd yr oeddynt yn ansymmudol oblegid yr ofn a ddaeth arnynt. Yn awr, yr oedd un yn eu mysg hwynt ag oedd yn Nephiad o enedigaeth, yr hwn a berthynai unwaith i eglwys Dduw, eithr yr oedd wedi ymneillduo oddi wrthynt. A bu iddo ef droi oddi amgylch, ac wele, efe a ganfyddodd trwy y cwmwl o dywyllwch wynebau Nephi a Lehi; ac wele, yr oeddynt yn dysclaerio yn ddirfawr, fel gwynebau angylion. Ac efe a welodd eu bod yn dyrchafu eu llygaid tua’r nef; ac yr oeddynt yn yr agwedd o ymddyddan neu ddyrchafu eu llef at rhyw fôd n welent.
A bu i’r dyn hwn waeddi ar y dyrfa, fel y troent ac yr edrychent. Ac wele, rhoddwyd gallu iddynt, fel y troisant ac yr edrychasant; a hwy a welsant wynebau Nephi a Lehi A hwy a ddywesant wrth y dyn, Wele, pa beth a arwydda yr holl bethau hyn? Ac â phwy y mae y dynion hyn yn ymddyddan? Yn awr, enw y dyn oedd Aminadab. Ac aminadab a ddywedodd wrthynt, Y maent yn ymddyddan ag angylion Duw. A bu i’r Lamaniaid ddywedyd wrtho, Pa beth a wnawn, fel y symuder y cwmwl hwn o dywyllwch rhag ein gorchuddio? Ac Aminadab a ddywedodd wrthynt, Rhaid i chwi edifarhau, a galw ar y llais, hyd nes y caffoch ffydd yn Nghrist, yr hwn a ddysgwyd i chwi gan Alma, ac Amulek, a Zeezrom; ac yna caiff ei symud rhag eich gorchuddio chwi.
A bu iddynt oll ddechreu galw ar lais yr hwn a ysgydwodd y ddaear; ïe, hwy a alwasant hyd nes y gwasgarwyd y cwmwl o dywyllwch. A bu pan daflasant eu golygon oddiamgylch, a gweled fod y cwmwl o dywyllwch wedi ei wasgaru rhag eu gorchuddio hwynt, wele, gwelsant eu bod wedi eu hamgylchynu, ïe, bob enaid, gan golofn o dân. Ac yr oedd Nephi a Lehi yn eu canol hwynt; ïe, yr oeddynt wedi eu hamgylchynu; ïe, yr oeddynt megys pe byddent yn nghanol tân fflamllyd, etto ni niweidiodd hwynt, ac ni afaelodd yn muriau y carchar; a hwy a lanwyd â’r llawenydd hwnw ag sydd yn annhraethadwy ac yn llawn o ogoniant. Ac wele, Ysbryd Glân Duw a ddaeth i waered o’r nef, ac a aeth i mewn i’w calonau, a hwy a lanwyd megys â thân, ac a allent lefaru geiriau rhyfedd.
A bu i lais ddyfod atynt, ïe, llais dymunol, mergys sibrwd, yn dywedyd, Tangnefedd, tangnefedd i chwi, o herwydd eich ffydd yn fy anwylyd, yr hwn oedd er seiliad y byd. Ac yn awr, pan glywsant hyn, hwy a godasant eu golygon fel er mwyn edrych o ba le yr oedd y llais yn dyfod; ac wele, gwelsant y nefoedd yn agored: ac angylion yn dyfod i waered o’r nef, ac yn gweini iddynt hwy. Ac yr oedd ynghylch tri chant o eneidiau yn gweled ac yn clywed y pethau hyn; a hwy a orchymynwyd i fyned allan a pheidio rhyfeddu, nac ychwaith ammau. A bu iddynt fyned allan, a gweinidogaethu i’r bobl, gan fynegi trwy yr holl ardaloedd oddiamgylch yr holl bethau a glywsent ac a welsent, yn gymmaint ag i’r rhan fwyaf o’r Lamaniaid gael eu hargyhoeddi ganddynt, o herwydd lliosogrwydd y tystiolaethau ag oeddynt wedi dderbyn; a chynnifer a argyhoeddwyd, a roddasant i lawr eu harfau rhyfel, ac hefyd eu casineb, a thraddodiad eu tadau. A bu iddynt roddi fyny i’r Nephiaid diroedd eu hetifeddiaeth.
A bu pan derfynodd y ddwyfed flwyddyn a thrugain o deyrnasiad y Barnwyr, fod yr holl bethau hyn wedi dygwydd, a bod y Lamaniaid y rhan fwyaf o honynt, wedi dyfod yn bobl gyfiawn, yn gymmaint â bod eu cyfiawnder yn fwy nag eiddo y Nephiaid, o herwydd eu cadernid a’u diysgogrwydd yn y ffydd. Canys wele, yr oedd llawer o’r Nephiaid wedi ymgaledu, ac yn anedifeiriol, a drygionus iawn, yn gymmaint ag iddynt wrthod gair Duw, a’r holl bregethu a’r prophwydo a ddaeth i’w plith hwynt. Er hyny, cafodd pobl yr eglwys lawenydd mawr, o herwydd dychweliad y Lamaniaid; ïe, o herwydd eglwys Dduw, yr hon oedd wedi ei sefydlu yn eu mysg. A hwy a gymdeithasant â’u gilydd, ac a orfoleddasant gyda’u gilydd, ac a gawsant lawenydd mawr. A bu i lawer o’r Lamaniaid ddyfod i waered i dir Zarahemla, a thraethu wrth bobl y Nephiaid, dull eu troedigaeth, ac annogasant hwynt i ffydd ac edifeirwch; ïe, a llawer a bregethasant gyda gallu mawr ac awdrudod, hyd nes y darostyngasant laweroedd o honynt i iselder gostyngeiddrwydd, i fod yn ganlynwyr addfwyn Duw a’r Oen.
A bu i lawer o’r Lamaniaid fyned i’r tir gogleddol; a Nephi a Lehi hefyd a aethant i’r tir gogleddol, i bregethu i’r bobl. Ac felly y terfynodd y drydedd flwyddyn a thrugain. Ac wele, yr oedd heddwch yn yr holl dir, yn gymmaint â bod y Nephiaid yn myned i ba barth bynag o’r tir a ewyllysient, pa un bynag ai yn mhlith y Nephiaid neu y Lamaniaid. A bu i’r Lamaniaid hefyd fyned i ba le bynag yr ewyllysient, pa un bynag ai yn mhlith y Lamaniaid neu yn mhlith y Nephiaid; ac felly cawsant drafnidiaeth rydd â’u gilydd, i brynu a gwerthu, ac elwa, yn ol eu dymuniad.
A bu iddynt fyned yn dra chyfoethog, y Lamaniaid a’r Nephiaid; ac yr oedd ganddynt gyflawnder mawr o aur, ac o arian, ac o bob math o feteloedd gwerthfawr, yn y wlad ddeheuol ac yn y wlad ogleddol. Yn awr, y wlad ddeheuol a elwid Lehi, a’r wlad ogleddol a elwid Mulek, yr hyn oedd yn ol meibion Zedekiah; canys yr Arglwydd a ddygodd Mulek i’r tir gogleddol, a Lehi i’r tir deheuol. Ac wele, yr oedd pob math o aur yn y ddau dir hyn, ac o arian, ac o fwnau gwerthfawr o bob math; ac yr oedd gweithwyr cywrain hefyd, y rhai a weithient bob math o fŵn, ac a’u purent; ac felly y daethant yn gyfoethog. Cynnyrchent ŷd hefyd mewn cyflawnder, yn y gogledd ac yn y deau. A hwy a liosogent ac a gryfhaent yn fawr yn y tir. A hwy a gyfodent lawer o dda a defaid, ïe, llawer o besgedigion. Wele, eu gwragedd a weithient ac a nyddent, ac a weithient bob math o frethyn, o lian main cyfrodedd, a brethyn o bob math, i ddilladu eu noethni. Ac felly y bedwaredd flwyddyn a thrugain a aeth heibio mewn heddwch. Ac yn y bummed flwyddyn a thrugain cawsant hefyd lawenydd mawr a heddwch; ïe, llawer o brethyn o bob math, i ddilladu eu noethni. Ac felly y bedwaredd flwyddyn a thrugain a aeth heibio mewn heddwch. Ac yn y bummed flwyddyn a thrugain cawsant hefyd lawenydd mawr a heddwch; ïe, llawer o bregethu a phrophwydo ynghylch yr hyn ag oedd i ddyfod. Ac felly yr aeth heibio y bummed flwyddyn a thrugain.
A dygwyddodd yn y chwechfed flwyddyn a thrugain o deyrnasiad y Barnwyr, i Cezoram gael ei lofruddio gan ddwylaw anadnabyddus pan oedd yn eistedd ar yr orsedd farnol. A bu yn yr un flwyddyn, i’w fab, yr hwn a benodwyd gan y bobl yn ei le, gael ei lofruddio hefyd. Ac felly y terfynodd y chwechfed flwyddyn a thrugain. Ac yn nechreu y seithfed flwyddyn a thrugain, dechreuodd y bobl fyned yn ddrygionus iawn drachefn. Canys wele, yr oedd yr Arglwydd wedi eu bendithio cyhyd â chyfoeth y byd, fel na chyffrowyd hwynt i ddigofaint, i ryfelodd, nac i dywallt gwaed; am hyny, hwy a ddechreuasant osod eu calonau ar eu cyfoeth; ïe, hwy a ddechreuasant geisio elwa, fel yr ymddyrchafent yn uwch nâ’u gilydd; am hyny, hwy a ddechreuasant gyflawni llofruddiaethau dirgelaidd, a lladrata, ac yspeilio, fel y gallent elwa. Ac yn awr, wele, y llofruddion a’r yspeilwyr hyny oedd lu a ffurfiwyd gan Kishkumen a Gadianton. Ac yn awr, yr oedd wedi dygwydd fod llawer, hyd y nod yn mhlith y Nephiaid, o lu Gadianton. Eithr wele, yr oeddynt yn lliosocach yn mhlith y rhan fwyaf drygionus o’r Lamaniaid. A hwy a elwid yspeilwyr a llofruddion Gadianton; a hwynt-hwy lofruddiodd y prif-farnwr Cezoram, a’i fab, tra yn yr orsedd farnol; ac wele, ni chafwyd hwynt allan.
Ac yn awr, dygwyddodd, pan gafodd y Lamaniaid allan fod yspeilwyr yn eu mysg, iddynt fod yn drist iawn; a defnyddiasant bob moddion yn eu gallu, i’w dyfetha oddiar wyneb y ddaear. Eithr wele, satan a gyffrodd galonau y rhan liosocaf o’r Nephiaid, yn gymmaint ag iddynt ymuno â’r lluoedd yspeilwyr hyny, a chymmeryd arnynt eu cyfammodau, a’u llwon, yr amddiffynent ac y cadwent y naill y llall yn mha amgylchiadau bynag y byddent, fel na ddyoddefent am eu llofruddiaethau, a’u hyspeiliadau, a’u lladradau.
A dygwyddodd fod ganddynt eu harwyddion, ïe, eu harwyddion dirgelaidd, a’u geiriau dirgelaidd; a hyn fel y gallent wahaniaethu brawd ag oedd wedi ymgyfammodi, fel pa ddrygioni bynag a gyflawnai ei frawd, na chaffai ei niweidio gan ei frawd, na chan y rhai a berthynai i’w lu, y rhai oeddynt wedi gwneuthur y cyfammod hwn, ac felly gallent lofruddio, ac yspeilio, a lladrata, a phuteinio, a gwneyd pob math o ddrygioni, yn groes i gyfreithiau eu gwlad, ac hefyd gyfreithiau eu Duw; a phwy bynag o’r rhai a berthynent i’w llu, a ddadguddiai i’r byd eu drygioni a’u ffieidd-dra, a gaent eu profi, nid yn ol cyfreithiau eu gwlad, eithr yn ol cyfreithiau eu drygioni hwy, y rhai a roddwyd gan Gadianton a Kishkumen. Yn awr, wele, y llwon a’r cyfammodau dirgelaidd hyn, ddarfu Alma orchymyn i’w fab, na chaent fyned allan i’r byd, rhag iddynt fod yn foddion i ddwyn y bobl i ddinystr. Yn awr, wele, ni ddaeth y llwon a’r cyfammodau dirgelaidd hyny i Gadianton o’r cof-lyfrau a drosglwyddwyd i Helaman; eithr wele, hwy a osodwyd yn nghalon Gadianton, gan yr un bôd hwnw a hudodd ein rhieni cyntaf i gyfranogi o’r ffrwyth gwaharddedig; ïe, yr un bôd hwnw ag a gynlluniodd gyda Chain, os gwnai efe ladd ei frawd, na chai fod yn adnabyddus i’r byd. Ac efe a gynlluniodd gyda Chain a’i ganlynwyr o’r amser hwnw allan. Ac hefyd yr un bôd hwnw a osododd yn nghalonau y bobl i adeiladu tŵr digon uchel fel y gallent fyned i’r nefoedd. A’r un bôd hwnw ag a arweiniodd y bobl a ddaethant o’r tŵr hwnw, i’r tir hwn; i’r tir hwn; y rhai a daenent weithredoedd tywyllwch a ffieidddra dros holl wyneb y tir, hyd nes y llusgodd y bobl i lwyr ddinystr, ac i uffern dragywyddol; ïe, yr un bôd hwnw a’i gosododd yn nghalon Gadianton, i gario yn mlaen o hyd waith tywyllwch, a dirgel lofruddiaeth; ac efe a’i dygodd yn mlaen o ddechreuad dyn, i lawr hyd yr amser hwn. Ac wele, efe yw awdwr pob pechod. Ac wele, y mae yn dwyn yn mlaen ei weithredoedd o dywyllwch a dirgel lofruddiaeth, ac yn trosglwyddo i waered eu cydfwriadau, a’u llwon, a’u cyfammodau, a’u cynlluniau o erchyll ddrygioni, o genedlaeth i genedlaeth, yn ol fel y gall gael gafael ar galonau meibion dynion. Ac yn awr, wele, yr oedd wedi cael gafael mawr ar galonau y Nephiaid; ïe, yn gymmaint â’u myned yn dra drygionus; ïe, yr oedd y rhan fwyaf o honynt wedi gwyro allan o ffordd cyfiawnder, ac wedi sathru dan eu traed orchymynion Duw, a throi i’w ffyrdd eu hunain, ac adeiladu iddynt eu hunain ddelwau o’u haur a’u harian.
A bu i’r holl anwireddau hyn ddyfod atynt hwy, mewn yspaid nemawr o flynyddau, yn gymmaint ag i’r rhau fwyaf o honynt ddyfod atynt yn y seithfed flwyddyn a thrugain o deyrnasiad y Barnwyr ar bobl Nephi. A hwy a gynnyddasant yn eu hanwireddau, yn yr wythfed flwyddyn a thrugain hefyd, er mawr dristwch a galar i’r cyfiawnion. Ac felly gweiwn i’r Nephiaid ddechreu methu mewn anghrediniaeth, a chynnyddu mewn drygioni a ffieidd-dra, tra y dechreuai y Lamaniaid gynnyddu yn fawr yn ngwybodaeth eu Duw; ïe, hwy a ddechreuasant gadw ei ddeddfau a’i orchymynion, a rhodio mewn gwirionedd ac uniondeb ger ei fron. Ac felly gwelwn fod ysbryd yr Arglwydd yn dechreu cilio oddiwrth y Nephiaid, o herwydd eu drygioni a chaledwch eu calonau. Ac felly gwelwn fod yr Arglwydd yn dechreu tywallt allan ei ysbryd ar y Lamaniaid, oblegid eu parodrwydd a’u hewyllysgarwch i gredu yn ei air.
A bu i’r Lamaniaid ymlid llu yspeilwyr Gadianton; a hwy a bregethasant air Duw yn mhlith y rhai mwyaf drygionus o honynt, yn gymmaint ag i’r llu hwn o yspeilwyr gael eu llwyr ddyfetha o blith y Lamaniaid. A dygwyddodd, ar y llaw arall, i’r Nephiaid eu cynnorthwyo a’u hamddiffyn hwynt, gan ddechreu ar y rhan fwyaf drygionus o honynt, hyd nes yr oeddynt wedi gwasgaru dros holl dir y Nephiaid, ac wedi hudo y rhan fwyaf o’r cyfiawnion, hyd nes y daethant i lawr i gredu yn eu gweithredoedd, a chyfranogi o’u hyspeiliadau, ac ymuno â hwynt yn eu dirgel lofruddiaethau a’u cydfwriadau. Ac felly y cawsant reolaeth y llywodraeth iddynt eu hunain, yn gymmaint ag iddynt sathru dan eu traed, a tharaw, a rhwygo, a throi eu cefnau ar ganlynwyr tlawd, ac addfwyn a gostyngedig Duw. Ac felly gwelwn eu bod mewn sefyllfa ofnadwy, ac yn addfedu i ddinystr tragywyddol. A bu mai felly y terfynodd yr wythfed flwyddyn a thrugain o deyrnasiad y Barnwyr ar bobl Nephi.