Scriptures
Helaman 5


Pennod Ⅴ.

Prophwydoliaeth Samuel, y Lamaniad, wrth y Nephiaid.

Ac yn awr, dygwyddodd yn y chwechfed flwyddyn a phedwar ugain, i’r Nephiaid aros etto mewn drygioni, ïe, mewn drygioni mawr, tra yr oedd y Lamaniaid yn fanwl i gadw gorchymynion Duw, yn ol cyfraith Moses. A bu yn y flwyddyn hon, i un Samuel, Lamaniad, ddyfod i dir Zarahemla, a dechreu pregethu wrth y bobl. A bu iddo amryw ddyddiau bregethu edifeirwch wrth y bobl, a hwy a’i bwriasant ef alan, ac yr oedd ynghylch dychwelyd i’w dir ei hun. Eithr wele, llef yr Arglwydd a ddaeth ato, am iddo ddychwelyd drachefn, a phrophwydo wrth y bobl pa bethau bynag a ddeuent i’w galon.

A bu na oddefent iddo fyned i mewn i’r ddinas; am hyny, efe a aeth gan fyned i fyny i ben ei mur, ac estyn allan ei law, a gwaeddi â llef uchel, a phrophwydo wrth y bobl pa bethau bynag a osodai yr Arglwydd yn ei galon; ac efe a ddywedodd wrthynt, Wele, myfi, Samuel, Lamaniad, wyf yn llefaru geiriau yr Arglwydd, y rhai a esyd efe yn fy nghalon; ac wele, efe a’i gosododd yn fy nghalon i ddywedyd wrth y bobl hyn, fod cleddyf cyfiawnder yn hongian uwchben y bobl hyn; ac nid â pedwar can mlynedd heibio, cyn y syrthia cleddyf cyfiawnder ar y bobl hyn; ïe, y mae dinystr trwm yn aros y bobl hyn, ac yn ddiau y daw ar y bobl hyn, ac nis gall dim achub y bobl hyn, ond edifeirwch a ffydd yn yr Arglwydd Iesu Grist, yr hwn yn ddiau a ddaw i’r byd, ac a ddyoddefa lawer o bethau, ac a leddir dros ei bobl. Ac wele, angel i’r Arglwydd a’i mynegodd i mi, ac efe a ddygodd newyddion da i’m henaid. Ac wele, mi a ddanfonwyd atoch i’w draethu i chwi hefyd, fel y caffoch chwithau newyddion da; eithr, wele, ni fynech fy nerbyn, am hyny, fel hyn y dywed yr Arglwydd, O herwydd caledwch calonau pobl y Nephiaid, os na edifarhant, mi a gymmeraf ymaith fy ngair oddiwrthynt, ac a dynaf fy ysbryd oddiwrthynt, ac nis goddefaf hwynt mwyach, a throaf galonau eu brodyr yn eu herbyn; ac nid â pedwar can mlynedd heibio cyn yr achosaf iddynt gael eu taraw; ïe, ymwelaf â hwynt yn fy nigter llidiog, a bydd rhai o’r bedwaredd genedlaeth, o’ch gelynion, yn fyw i weled eich llwyr ddinystr: a hyn yn ddiau a ddaw oni edifarhewch, medd yr Arglwydd; a’r rhai hyny o’r bedwaredd genedlaeth a ymwelant â’ch dinystr. Eithr os edifarhewch a dychwelyd at yr Arglwydd eich Duw, mi a doraf ymaith fy llid, medd yr Arglwydd; ïe, fel hyn y dywed yr Arglwydd, Gwynfyd y rhai a edifarhant ac a ddychwelant ataf, eithr gwae yr hwn ni edifarhao; ïe, gwae y ddinas fawr hon Zarahemla; canys wele, o herwydd y rhai sydd yn gyfiawn, yr achubir hi; ïe, gwae y ddinas fawr hon, canys mi a ganfyddaf, medd yr Arglwydd, y bydd i lawer, ïe, sef y rhan amlaf o’r ddinas fawr hon, galedu eu calonau yn fy erbyn i, medd yr Arglwydd. Ond gwynfyd y rhai a edifarhant, canys hwynt-hwy a arbedaf. Eithr wele, oni bai y cyfiawnion ag ydynt yn y ddinas fawr hon, wele, mi a achoswn i dân ddyfod i lawr o’r nef, a’i dinystrio. Eithr, wele, er mwyn y cyfiawnion, yr arbedir hi. Ond, wele, mae yr amser yn dyfod, medd yr Arglwydd, pan fwrioch y cyfiawnion allan o’ch mysg, yna y byddwch yn addfed i ddinystr; ïe, gwae y ddinas fawr hon, oblegid y drygioni a’r ffieidd-dra ag sydd ynddi; ïe, a gwae dinas Gideon, oblegid y drygioni a’r ffieidd-dra ag sydd ynddi hithau; ië, a gwae yr holl ddinasoedd ag ydynt yn y tir oddiamgylch, y rhai a feddiannir gan y Nephiaid, oblegid y drygioni a’r ffieidd-dra ag sydd ynddynt; ac wele, daw melldith ar y tir, medd Arglwydd y Lluoedd, o achos y bobl ag sydd yn y tir; ië, o achos eu drygioni a’u ffieidd-dra.

A bydd, medd Arglwydd y Lluoedd, ië, ein Duw mawr a geirwir, pwy bynag a guddio drysorau yn y ddaear, na chaiff hwynt mwyach, oblegid y felldith fawr ar y tir, oddieithr ei fod yn ddyn cyfiawn, a’i fod yn eu cuddio i’r Arglwydd, canys yr wyf yn ewyllysio, medd yr Arglwydd, iddynt guddio eu trysorau i mi; a melldigedig yw y rhai na chuddiant eu trysorau i mi; canys nid yw neb yn cuddio eu trysorau i mi, oddieithr y cyfiawn; a’r hwn nad yw yn cuddio ei drysorau i mi, sydd felldigedig, a’r trysor hefyd, ac ni wareda neb ef o achos melldith y tir. A’r dydd a ddaw pan y cuddiant eu trysorau, o herwydd eu bod wedi gosod eu calonau ar gyfoeth; ac o herwydd eu bod wedi gosod eu calonau ar eu cyfoeth, mi a guddiaf eu trysorau pan y cânt ffoi o flaen eu gelynion, o herwydd nas cuddiant hwynt i mi; melldigedig fyddont hwy, a’u trysorau hefyd; ac yn y dydd hwnw y tarawir hwynt, medd yr Arglwydd. Edrychwch, chwi bobl y ddinas fawr hon, a gwrandewch ar fy ngeiriau; ïe, gwrandewch ar y geiriau a ddywed yr Arglwydd; canys, wele, dywed mai melldigedig ydych chwi o herwydd eich cyfoeth, ac hefyd melldigedig yw eich cyfoeth o herwydd eich bod chwi wedi gosod eich calonau arno, a pheidio gwrandaw ar eiriau yr hwn a’i rhoddodd i chwi. Nid ydych yn cofio yr Arglwydd eich Duw yn y pethau y’ch bendithiodd chwi, eithr yr ydych yn cofio yn wastadol am eich cyfoeth, i beidio diolch i’r Arglwydd eich Duw am dano; ïe, nid yw eich calonau yn cael cu tynu at yr Arglwydd, eithr y maent yn ymchwyddo â balchder mawr, hyd at ymffrostio, a mawr hunanoldeb, cenfigenau, amrysonau, malais, erlidiau, a llofruddiaethau, a phob math o anwireddau. O achos hyn y mae yr Arglwydd Dduw yn peri i felldith ddyfod ar y tir, ac hefyd ar eich cyfoeth; a hyn oblegid eich anwireddau; ië, gwae y bobl hyn, o herwydd yr amser hwn ag sydd wedi dyfod, pan yr ydych yn bwrw allan y prophwydi, ac yn eu gwatwar, ac yn lluchio ceryg atynt, ac yn eu lladd, a gweithredu pob math o ddrygioni tuag atynt, megys y gwnaethant yr amser gynt. Ac yn awr, pan y siaradwch, chwi a ddywedwch, pe buasai ein dyddiau ni yn nyddiau ein tadau gynt, na fuasech yn lladd y prophwydi; na fuasech yn eu llabyddio, a’u bwrw allan. Wele, yr ydych chwi yn waeth nâ hwy; canys fel mai byw yr Arglwydd, os daw prophwyd i’ch plith chwi a thraethu wrthych air yr Arglwydd, yr hwn sydd yn tystiolaethu am eich pechodau a’ch anwireddau, yr ydych yn ddigllawn wrtho, ac yn ei fwrw allan, a cheisio pob math o ffyrdd i’w ddyfetha; ië, chwi a ddywedwch mai gau brophwyd yw, ac mai pechadur yw, ac o’r diafol, o herwydd y tystiolaetha fod eich gweithredoedd chwi yn ddrwg. Eithr wele, os daw dyn i’ch plith chwi a dywedyd, Gwnewch hyn, ac nid oes dim drygioni: gwnewch hyna, ac ni chewch ddyoddef; ië, efe a ddywed, rhodiwch yn ol balchder eich golygon, a gwnewch pa beth bynag a chwennycho eich calon; ac os daw dyn i’ch plith a dywedyd hyn, chwi a’i derbyniwch ef, ac a ddywedwch mai prophwyd yw; ië, chwi a’i dyrchefwch i’r làn, ac a roddwch iddo o’ch eiddo; chwi a roddwch iddo o’ch aur, ac o’ch arian, ac a’i dilladwch â gwisgoedd costfawr; ac oblegid ei fod yn llefaru geiriau dengar wrthych, a dywedyd fod pob peth yn dda, yna nid ydych yn cael bai ynddo. O chwi genedlaeth ddrygionus a gwyrdraws; chwi bobl wrthnysig a gwargaled, pa hyd feddyliwch y dyoddefa yr Arglwydd chwi? ië, pa hyd y goddefwch i’ch hunain gael eich arwain gan gyfarwyddwyr deillion a ffol? ië, pa hyd y dewiswch dywyllwch yn hytrach nâ goleuni? ië, wele, y mae digter yr Arglwydd wedi ei ennyn eisoes yn eich erbyn; wele, y mae wedi melldithio y tir, oblegid eich anwiredd; ac wele, mae yr amser yn dyfod y melldithia eich cyfoeth, fel yr elo ynllithrig, fel nas galloch afaelyd ynddo; ac yn nyddiau eich tlodi, nis gellwch ei gael; ac yn nyddiau eich tlodi, chwi a alwch ar yr Arglwydd; ac yn ofer y galwch, canys y mae eich anghyfannedd-dra eisoes wedi dyfod arnoch, a’ch dinystr wedi ei sicrhau; ac yna yr wylwch ac y griddfanwch yn y dydd hwnw, medd Arglwydd y Lluoedd. Ac yna y galarwch, ac y dywedwch, O na fuaswn wedi edifarhau, ac heb lad y prophwydi, a’u llabyddio, a’u bwrw hwynt allan; ië, yn y dydd hwnw y dywedwch, O na fuasem wedi cofio yr Arglwydd ein Duw, yn y dydd y rhoddodd i ni ein cyfoeth, ac yna ni fuasent wedi myned yn llithrig, fel y collem hwynt; canys, wele, mae ein cyfoeth wedi myned oddiwrthym. Wele, yr ydym yn gosod offeryn yma, ac yn y boreu y mae wedi myned; ac wele, ein cleddyfau a gymmerir oddiwrthym yn y dydd y ceisiasom hwynt at ryfel. Ië, yr ydym wedi cuddio ein trysorau, ac y maent wedi llithro oddiwrthym, o herwydd melldith y tir. O na fuasem wedi edifarhau yn y dydd y daeth gair yr Arglwydd atom; canys wele, mae y tir wedi ei felldithio, a phob peth wedi myned yn llithrig, ac nis gallwn eu cadw hwynt. Wele, yr ydym wedi ein hamgylchynu gan gythreuliaid, ië, wedi ein hamgau o amgylch gan angylion yr hwn sydd wedi ceisio dyfetha ein heneidiau. Wele, mae ein hanwireddau yn fawr. O Arglwydd, ai ni elli di droi ymaith dy lid oddiwrthym? A hyn fydd eich iaith chwi yn y dyddiau hyny. Eithr wele, mae eich dyddiau ymbrawf wedi myned heibio; gohiriasoch ddydd eich iachawdwriaeth, hyd nes y mae yn dragywyddol rhy ddiweddar, a’ch dinystr sydd wedi ei sicrhau; ië, canys chwi a geisiasoch holl ddyddiau eich bywyd am yr hyn nad allech ei gael; a cheisiasoch ddedwyddwch wrth weithredu anwiredd, yr hyn beth sydd yn groes i natur y cyfiawnder hwnw ag sydd yn ein Pen mawr a thragywyddol. O chwi bobl y tir, na wrandawech ar fy ngeiriau. Ac yr wyf fi yn gweddio am i ddigter yr Arglwydd gael ei droi oddiwrthych, ac am i chwi edifarhau a chael eich achub.

Ac yn awr, darfu i Samuel, y Lamaniad, brophwydo llawer iawn o bethau yn ychwaneg, y rhai ni ellir eu hysgrifenu. Ac wele, efe a ddywedodd wrthynt, Wele, yr wyf yn rhoddi arwydd i chwi; canys pan ddel pum mlynedd etto, ac wele, yna y daw Mab Duw i waredu yr holl rai a gredant yn ei enw. Ac wele, hyn a roddaf i chwi yn arwydd ar amser ei ddyfodiad; canys wele, bydd goleuni mawr yn y nef, yn gymmaint ag na fydd yn y nos cyn ei ddyfodiad ddim tywyllwch, hyd nes yr ymddengys i ddyn megys pe byddai yn ddydd, o ganlyniad bydd un dydd a nos, a dydd, megys pe byddai yn un dydd, ac na fyddai nos; a hyn a fydd i chwi yn arwydd; canys chwi a gewch wybod am godiad yr haul, ac hefyd am ei fachludiad; am hyny, hwy a gant wybod mewn sicrwydd y bydd dau ddydd a nos; er hyny ni thywyllir y nos; a chaiff hono fod y nos cyn ei enedigaeth. Ac wele, cyfoda seren newydd, y fath un na welsoch erioed o’r blaen; a hyn hefyd a gaiff fod yn arwydd i chwi. Ac wele, nid hyn yw’r cyfan; bydd llawer o arwyddion a rhyfeddodau, yn y nefoedd. A dygwydda y bydd i chwi oll ryfeddu, a synu, yn gymmaint ag y syrthiwch i’r ddaear. A dygwydda i bwy bynag a gredo yn Mab Duw, i’r cyfryw gael bywyd tragywyddol. Ac wele, fel hyn y gorchymynodd yr Arglwydd i mi, trwy ei angel, ddyfod a dywedyd y peth hwn wrthych; ïe, efe a orchymynodd i mi brophwydo y pethau hyn wrthych; ïe, efe a ddywedodd wrthyf, Llefa wrth y bobl hyn, Edifarhewch a pharotowch ffordd yr Arglwydd. Ac yn awr, o herwydd fy mod yn Lamaniad, a’m bod wedi llefaru wrthych y geiriau a orchymynodd yr Arglwydd i mi, ac o herwydd eu bod yn galed yn eich erbyn chwi, yr ydych yn ddigllawn wrthyf, ac yn ceisio fy nyfetha, ac wedi fy mwrw allan o’ch plith. A chwi a gewch glywed fy ngeiriau, canys i’r dyben yma y daethym i ben muriau y ddinas hon, fel y gallech glywed a gwybod am farnedigaethau Duw, y rhai ydynt yn eich aros oblegid eich anwireddau, ac hefyd fel y gwypech am ammodau edifeirwch; ac hefyd fel y gwypech am ddyfodiad Iesu Grist, Mab Duw, Tad nef a daear, Creawdwr pob peth, o’r dedhreuad; ac fel y gwypech am arwyddion ei ddyfodiad, i’r dyben fel y gallech gredu yn ei enw. Ac os ydych yn credu yn ei enw, chwi a edifarhewch am eich holl bechodau, fel trwy hyny y caffoch faddeuant o honynt trwy ei deilyngdod ef. Ac wele, arwydd arall a roddaf i chwi; ïe, arwydd o’i farwolaeth; canys wele, diau y rhaid iddo farw, fel y dêl iachawdwriaeth; ïe, y mae yn gweddu iddo, ac yn dyfod yn anghearheidiol iddo farw, er dwyn oddiamgylch adgyfodiad y meirw, fel trwy hyny y gellid dwyn dynion i bresennoldeb yr Arglwydd; ïe, wele, mae y farwolaeth hon yn dwyn oddiamgylch yr adgyfodiad, ac yn gwaredu holl ddynolryw o’r farwolaeth gyntaf; y farwolaeth ysbrydol hono i holl ddynolryw, trwy gwymp Adda, gan fod wedi eu tori ymaith o bresennoldeb yr Arglwydd, neu eu hystyried megys yn feirw, gyda golwg ar bethau tymmorol a phethau ysbrydol. Eithr, wele, y mae adgyfodiad Crist yn gwaredu dynolryw, ïe, sef holl ddynolryw, ac yn eu dwyn yn ol i bresennoldeb yr Arglwydd; ïe, ac y mae yn dwyn oddiamgylch yr ammod o edifeirwch, sef pwy bynag a edifarhao, y cyfryw nis torir i lawr a’i fwrw i’r tân; ac yno y daw arnynt drachefn farwolaeth ysbrydol, ïe, ail farwolaeth, canys torir hwynt ymaith drachefn gyda golwg ar bethau perthynol i gyfiawnder: am hyny, edifarhewch, edifarhewch chwi, rhag trwy wybod y pethau hyn, ac heb eu gwneuthur, y goddefwch i’ch hunain ddyfod dan gondemniad, a chael eich dwyn i lawr i’r ail farwolaeth hon. Eithr, wele, megys y dywedais wrthych ynghylch arwydd arall, arwydd o’i farwolaeth, wele, yn y dydd hwnw y dyoddefa efe farwolaeth, y tywyllir yr haul ac y gwrthoda roddi ei oleuni i chwi; ac hefyd y lleuad, a’r sêr; ac ni fydd dim goleuni ar wyneb y tir hwn, ïe, o’r amser y dyoddefa farwolaeth, dros yspaid tri diwrnod, hyd yr amser yr adgyfoda drachefn oddiwrth y meirw; ïe, ar yr amser y rhydd i fyny yr ysbryd, y bydd taranau a mellt am yspaid llawer o oriau, a’r ddaear a ysgydwa ac a gryna, a’r creigian ag ydynt ar wyneb y ddaear hon, y rhai ag sydd uwchlaw y ddaear ac islaw y ddaear, y rhai a wyddoch ydynt ar y pryd hwn yn gyfain, neu ag sydd â’r rhan fwyaf o honynt yn gyfangorff, a dorir i fyny; ïe, hwy a rwygir yn y canol, a cheir hwynt byth ar ol hyny yn wrymiau ac yn holltau, ac yn ddarnau drylliedig ar wyneb yr holl ddaear; ïe, oddiar y ddaear ac islaw. Ac wele, bydd tymhestloedd mawrion, a chaiff llawer o fynyddoedd eu gostwng, yn gyffelyb i ddyffryn; a bydd llawer o leoedd a elwir yn awr yn ddyffrynoedd, y rhai a ddeuant yn fynyddoedd, uchder pa rai fydd yn fawr. A llawer o brif-ffyrdd a dorir i fyny, a llawer o ddinasoedd a ddeuant yn anghyfannedd, a llawer o feddau a agorir, ac a roddant i fyny eu meirw; a llawer o saint a ymddangosant i amryw. Ac wele, felly y llefarodd yr angel wrthyf; canys efe a ddywedodd wrthyf, y buasai taranau a mellt am yspaid llawer o oriau; ac efe a ddywedodd wrthyf, mai tra y paräai y taranau a’r mellt, a’r dymhestl, y buasai y pethau hyn, ac y gorchuddiai tywyllwch wyneb yr holl ddaear, am yspaid tri diwrnod. A’r angel a ddywedodd wrthyf, y cai llawer weled pethau mwy nâ’r rhai hyn, i’r dyben iddynt gredu y deuai yr arwyddion a’r rhyfeddodau hyn oddiamgylch, ar holl wyneb y tir hwn; i’r dyben na fyddai un achos i anghrediniaeth yn mhlith meibion dynion; a hyny i’r dygen fel y gallai pwy bynag a gredai, gael eu hachub, a phwy bynag na chredai, gael barnedigaeth gyfiawn arnynt; ac hefyd, os condemnir hwy, y dygont arnynt eu condemniad eu hunain. Ac yn awr, cofiwch, cofiwch, fy mrodyr, fod pwy bynag sydd yn trengu, yn trengu iddo ei hun; a phwy bynag sydd yn gweithredu anwiredd, yn ei weithredu iddo ei hun; canys wele, yr ydych chwi yn rhyddion; caniateir i chwi weithredu drosoch eich hunain; canys wele, y mae Duw wedi rhoddi gwybodaeth i chwi, ac wedi eich gwneuthur yn rhyddion; y mae wedi rhoddi i chwi fel y galloch adnabod y da oddiwrth y drwg, ac wedi rhoddi i chwi fel y galloch ddewis bywyd neu farwolaeth, a chwi a ellwch wneuthur da a chael eich adferu at yr hyn sydd dda, neu gael yr hyn sydd dda wedi ei adferu i chwi; neu gellwch wneuthur drwg, a chael yr hyn sydd ddrwg wedi ei adferu i chwi. Ac yn awr, fy anwyl frodyr, wele, yr wyf yn traethu wrthych, oni edifarhewch, eich tai a adewir i chwi yn anghyfannedd; ïe, oni edifarhewch, eich gwragedd a gant achos mawr i alaru yn y dydd y rhoddant sugn; canys chwi a gynnygiwch ffoi, ac ni fydd lle o ddiangfa: ië, a gwae y rhai beichiog, canys hwy a fyddant drymion, ac nis gallant ffoi; am hyny, hwy a sathrir i lawr, ac a adewir i drengu; ië, gwae y bobl hyn y rhai a elwir pobl Nephi, oni edifarhant pan welant yr holl arwyddion a’r rhyfeddodau a ddangosir iddynt; canys wele, hwy a fuont yn bobl etholedig yr Arglwydd; ië, pobl Nephi a garodd efe, ac hefyd efe a’u ceryddodd; ië, yn nyddiau eu hanwiredd y ceryddodd hwynt, o herwydd ei fod yn eu caru. Eithr, wele, fy mrodyr, efe a gasâodd y Lamaniaid, o herwydd eu gweithredoedd a fuont yn ddrwg yn wastasol: a hyn o herwydd anwiredd traddodiad eu tadau. Eithr wele, daeth iachawdwriaeth atynt hwy, trwy bregethiad y Nephiad; ac i’r dyben yma yr estynodd yr Arglwydd eu dyddiau. Ac mi a fynwn i chwi sylwi fod y rhan fwyaf o honynt ar lwybr eu dyledwydd, a’u bod yn rhodio yn wylladwrus gerbron Duw, ac yn gofalu cadw ei orchymynion, a’i ddeddfau, a’i farnedigaethau, yn ol cyfraith Moses. Ië, meddaf wrthych, mae y rhan fwyaf o honynt yn gwneuthur hyn, ac y maent yn ymdrechu, gyda diwydrwydd diflino, fel y gallont ddwyn y gweddill o’u brodyr i wybodaeth o’r gwirionedd; am hyny, y mae llaweroedd ag ydynt yn ychwanegu at eu rhifedi yn feunyddiol. Ac wele, chwi a wyddoch o honoch eich hunain, oblegid chwi a’i gwelsoch, fod cynnifer o honynt ag a ddygir i wybodaeth o’r gwirionedd, ac i adnabod traddodiadau drygionus a ffiaidd eu tadau, ac a dywysir i gredu yr ysgrythyrau santaidd, ïe, prophwydoliaethau y prophwydi santaidd, ag sydd yn ysgrifenedig, y rhai a’u tywysant at ffydd yn yr Arglwydd, ac i edifeirwch, yr hyn ffydd ac edifeirwch a ddwg gyfnewidiad calon iddynt;—ïe, cynnifer ag wydd wedi dyfod hyd at hyn, chwi a wyddoch o honoch eich hunain, ydynt gadarn a diysgog yn y ffydd, ac yn yr hyn beth y gwnaethwyd hwynt yn rhyddion. A chwi a wyddoch hefyd eu bod wedi claddu eu harfau rhyfel, ac ofnant eu cymmeryd i fyny, rhag mewn rhyw fodd iddynt bechu; ië, gellwch weled eu bod yn ofni pechu; canys wele, goddefant i’w hunain gael eu sathru i lawr a’u lladd gan eu gelynion, ac ni chyfodant eu cleddyfau yn eu herbyn; a hyn o herwydd eu ffydd yn Nghrist. Ac yn awr, o herwydd eu diysgogrwydd pan yn credu yn y peth hwnw a gredant; canys oblegid eu cadernid wedi iddynt gael unwaith eu goleuo, wele, yr Arglwydd a’u bendithia hwynt, ac a estyna eu dyddiau, er eu holl anwiredd; ië, hyd y nod pe methent mewn anghrediniaeth, yr Arglwydd a estyna eu dyddiau hyd nes delo yr amser y llefarwyd am dano gan ein tadau, ac hefyd gan y prophwyd Zenos, ac amryw brophwydi ereill, ynghylch adferiad ein brodyr, y Lamaniaid, drachefn, i wybodaeth o’r gwirionedd; ië, meddaf wrthych yn yr amseroedd diweddaf, yr estynwyd addewidion yr Arglwydd tuag at ein brodyr, y Lamaniaid; ac er yr amryw gystuddiau a gânt, ac er y cânt eu gyru yn ol a blaen ar wyneb y ddaear, a’u hela, a’u taraw, a’u gwasgaru ar led, heb le o ddiogelwch, yr Arglwydd a fydd drugarog wrthynt; ac y mae hyn yn ol y y brophwydoliaeth, y dygir hwynt i’r wir wybodaeth, yr hon yw y wybodaeth o’u Gwaredwr, a’u Bugail mawr a gwirioneddol, ac y cyfrifir hwynt yn mysg ei ddefaid. Gan hyny, yr wyf yn dywedyd wrthych, y bydd yn well arnynt hwy nag arnoch chwi, oni edifarhewch. Canys wele, pe buasai y gweithredoedd nerthol a ddangoswyd i chwi, yn cael eu dangos iddynt hwy; ïe, iddynt hwy ag ydynt wedi methu mewn anghrediniaeth o herwydd traddodiadau eu tadau, fchwi a eilwch weled o honoch eich hunain, na wnaent byth drachefn fethu mewn anghrediniaeth; am hyny, medd yr Arglwydd, ni lwyr ddinystriaf hwynt, eithr mi a beraf iddynt yn nydd fy noethineb, ddychwelyd ataf drachefn, medd yr Arglwydd. Ac yn awr, wele, medd yr Arglwydd, ynghylch pobl y Nephiaid, os na edifarhant, a gofalu gwneuthur fy ewyllys, mi a’u llwyr ddinystriaf hwynt, medd yr Arglwydd, o herwydd eu hanghrediniaeth, yn ngwyneb yr aml weithredoedd nerthol a wnaethym yn eu plith; a chan sicred ag mai byw yr Arglwydd, y pethau hyn a fyddant, medd yr Arglwydd.

Ac yn awr, dygwyddodd fod llawer yn clywed geiriau Samuel, y Lamaniad, y rhai a lefarodd ar ben muriau y ddinas. A chynnifer ag a gredasant ei air, a aethant ac a geisiasant Nephi; ac ar ol iddynt ddyfod allan a’i gael ef, hwy a gyffesent iddo eu pechodau ac nis gwadent, gan ddymuno cael eu bedyddio i’r Arglwydd. Eithr cynnifer ag ni chredent yn ngeiriau Samuel, oeddynt ddigllawn wrtho; a hwy a daflasant geryg ato i ben y mur, ac amryw hefyd a saethasant saethau ato, pan yr oedd yn sefyll ar y mur; eithr yr oedd ysbryd yr Arglwydd gydag ef, yn gymmaint ag nas gallent ei daraw â’u ceryg, nac â’u saethau. Yn awr, pan welsant hwy hyn, nas gallent ei daraw ef, yr oedd llawer yn ychwaneg yn credu yn ei eiriau, yn gymmaint ag iddynt fyned ymaith at Nephi i gael eu bedyddio. Canys, wele, yr oedd Nephi yn bedyddio, ac yn prophwydo, ac yn pregethu, gan waeddi edifeirwch wrth y bobl; gan ddangos arwyddion a rhyfeddodau; gwneuthur gwyrthiau yn mhlith y bobl, fel y gallent wybod fod yn rhaid i Grist ddyfod ar fyrder; gan fynegi wrthynt am bethau ag oedd yn rhaid eu dyfod ar fyrder, fel y gwypent ac y cofient yn amser eu dyfodiad eu bod wedi eu hysbysu iddynt yn mlaenllaw, i’r dyben iddynt gredu; am hyny, cynnifer ag a gredent yn ngeiriau Samuel, a aethant ato ef i gael eu bedyddio, canys hwy a ddaethent gan edifarhau a chyffesu eu pechodau. Eitrh y rhan fwyaf o honynt ni chredent yn ngeiriau Samuel; gan hyny, pan welsant nad allent ei daraw ef â’u ceryg a’u saethau, hwy a waeddasant ar eu cadbeniaid, gan ddywedyd, Daliwch y dyn hwn a rhwymwch ef, canys, wele, y mae ganddo ddiafol; ac o herwydd gallu y diafol yr hwn sydd ynddo, nis gallwn ei daraw ef â’n ceryg a’n saethau; am hyny, daliwch a rhwymwch ef, ac ymaith ag ef. A phan aethant i osod dwylaw arno, wele, efe a fwriodd ei hun i lawr oddiar y mur, ac a ffodd allan o’u tiroedd, ïe, sef i’w wlad ei hun; ac a ddechreuodd bregethu a phrophwydo yn mhlith ei bobl ei hun. Ac wele, nis clywyd am dano byth mwyach yn mhlith y Nephiaid; ac felly yr oedd achosion y bobl. Ac felly y terfynodd y chwechfed flwyddyn a phedwar ugain o deyrnasiad y Barnwyr ar bobl Nephi. Ac felly hefyd y terfynodd y seithfed flwyddyn a phedwar ugain o deyrnasiad y Barnwyr, y rhan fwyaf o’r bobl yn aros yn eu balchder a’u drygioni, a’r rhan leiaf yn rhodio yn fwy gwyliadwrus gerbron Duw. A dyma hefyd oedd eu cyflyrau, yn yr wythfed flwyddyn a phedwar ugain o deyrnasiad y Barnwyr. Ac nid oedd ond ychydig o gyfnewidiad yn achosion y bobl, oddigerth fod y bobl yn dechreu caledu mwy mewn drygioni, a gwneuthur mwy fwy o’r hyn ag oedd yn groes i orchymynion Duw, yn y nawfed flwyddyn a phedwar ugain o deyrnasiad y Barnwyr.

Eithr dygwyddodd yn y ddegfed flwyddyn a phedwar ugain o deyrnasiad y Barnwyr, fod arwyddion mawr yn cael eu rhoddi i’r bobl, a fhyfeddodau; a geiriau y prophwydi a ddechreuasant gael eu cyflawni; ac ymddangosodd angylion i ddynion, dynion doeth, ac a fynegasant iddynt newyddion da o lawenydd mawr; felly yn y flwyddyn hon y dechreuodd yr ysgrythyrau gael eu cyflawni. Er hyny, y bobl a ddechreuasant galedu eu calonau, yr oll oddieithr y rhan fwyaf grediniol o honynt, o’r Nephiaid, ac o’r Lamaniaid hefyd, ac a ddechreuasant ymddibynu ar eu nerth eu hunain, ac ar eu doethineb eu hunain, gan ddywedyd, Gallant fod wedi amcanu rhai pethau yn iawn, yn mhlith cynnifer; eithr wele, gwyddom nas gall yr holl weithredoedd mawrion a rhyfedd hyn y llefarwyd am danynt, ddyfod i ben. A hwy a ddechreuasant ymresymu ac ymddadleu yn mhlith eu gilydd, gan ddywedyd nad yw yn rhesymol fod y fath fôd â Christ i ddyfod; pe felly, ac yntau yn Fab Duw, Tad nef a daear, fel y llefarwyd, paham na ddengys efe ei hun i ni, yn gystal ag iddynt hwy y rhai a fyddant yn Jerusalem? Ië, paham na ddengys efe ei hun yn y tir hwn, yn gystal ag yn nhir Jerusalem? Eithr wele, ni a wyddom mai traddodiad drygionus yw hwn, a drosglwyddwyd i waered i ni gan ein tadau, er achosi i ni gredu mewn rhyw beth mawr a rhyfeddol ag a ddeuai i ben, ond nid yn ein plith ni, eithr mewn gwlad sydd yn mhell iawn, gwlad na adwaenwn; gan hyny, gallant ein cadw ni mewn anwybodaeth, canys nis gallwn weled â’n llygaid ein hunain eu bod yn wir. A hwy, trwy gywreinrwydd cyfrwys a dirgelaidd yr un drwg, a weithredant ryw ddirgelwch mawr, ag nas gallwn ni ei ddeall, yr hwn a’n ceidw ni i lawr i fod yn weision i’w geiriau hwynt, ac hefyd iddynt hwythau, canys yr ydym yn ymddibynu arnynt hwy i ddysgu i ni y gair; ac felly y cadwant ni mewn anwybodaeth, os ymollyngwn iddynt, holl ddyddiau ein bywyd. A llawer o bethau yn ychwaneg a ddychymmygai y bobl yn eu calonau, y rhai oeddynt ofer a ffol; ac yr oeddynt wedi eu terfysgu yn fawr, canys yr oedd satan yn eu cynhyrfu i weithredu anwiredd yn barhaus; ïe, elai o amgylch, gan daenu chwedlau ac amrafaelion, ar hyd holl wyneb y tir, fel y caledai galonau y bobl yn erbyn yr hyn oedd dda, ac yn erbyn yr hyn a ddeuai; ac er yr holl arwyddion a’r rhyfeddodau a weithredwyd yn mhlith pobl yr Arglwydd, a’r amryw wyrthiau a gyflawnwyd ganddynt, yr oedd satan wedi cael gafael mawr ar galonau y bobl, ar holl wyneb y tir. Ac felly y terfynodd y ddegfed flwyddyn a phedwar ugain o deyrnasiad y Barnwyr ar bobl Nephi. Ac felly y terfynodd llyfr Helaman, yn ol cof-lyfr Helaman a’i feibion.